Ymchwiliad wedi i'r heddlu gael eu galw i gêm rygbi
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i gêm oedd yn rhaid ei dod i ben oherwydd ymladd.
Bu'n rhaid rhoi stop ar y gêm rhwng Treharris a'r Tyllgoed ddydd Sadwrn wedi 73 munud.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r gêm "yn dilyn adroddiadau o gythrwfl", ond na chafodd unrhyw un eu harestio.
Ychwanegodd URC y byddan nhw'n cynnal gwrandawiad disgyblu "sy'n digwydd yn dilyn unrhyw gêm sy'n cael ei gorfodi i ddod i ben".
"Unwaith y byddwn ni'n derbyn adroddiad y dyfarnwr, byddwn ni'n gwahodd y ddau glwb i gyflwyno adroddiadau cyn cynnal gwrandawiad disgyblu," meddai'r corff.
Roedd Treharris ar y blaen o 32-14 pan ddaeth y gêm i ben gyda llai na 10 munud yn weddill.
Mae Heddlu'r De wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.