Pryder y bydd Bale allan am fis gydag anaf arall
- Cyhoeddwyd

Mae Real Madrid wedi dweud bod Gareth Bale wedi cael anaf i gyhyr yn ei goes ac felly nad yw'n debygol o chwarae am tua mis.
Cafodd ei anafu yn ystod gêm Real yn erbyn Barcelona nos Sul.
Mae'n debygol felly o fethu'r ddwy gêm yn erbyn Atletico Madrid yn rownd gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr.
Yn gynharach y mis hwn cafodd Bale straen ar gyhyr ei goes, a bu'n rhaid iddo fethu'r gêm gynghrair yn erbyn Sporting Gijon.
Beirniadu
Mae rhai wedi beirniadu rheolwr Real, Zinedine Zidane am ganiatáu i Bale chwarae nos Sul, ond dywedodd Zidane mewn cynhadledd ddydd Mercher nad oedd yn difaru ei benderfyniad.
"Dywedodd Gareth Bale wrtha i cynt ei fod yn 100% ffit," meddai.
"Cyn y gêm roedd popeth yn iawn ac roedd e'n ymarfer fel cynt.
"Dy'n ni ddim yn siŵr beth yw'r camau nesaf, ond ry'n yn gobeithio y bydd e nôl yn fuan."