Ieuan Wyn Jones i sefyll ym Môn
- Cyhoeddwyd

Mae cyn arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones wedi cael ei ddewis i sefyll yn enw'r blaid yn etholaeth Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin.
Cafodd ei ddewis wedi cyfarfod o aelodau yn Llangefni.
Mr Jones oedd Aelod Seneddol Môn o 1987 i 2001, a bu'n Aelod Cynulliad rhwng 1999 a 2013.
Albert Owen o'r blaid Lafur yw AS presennol yr ynys, wedi iddo gael ei ethol gyda mwyafrif o 229 o bleidleisiau dros ymgeisydd Plaid Cymru, John Rowlands, yn etholiad cyffredinol 2015.
Mae Mr Owen wedi cadarnhau y bydd yn sefyll eto ar 8 Mehefin.
Bu Mr Jones yn arweinydd Plaid Cymru o 2000 i 2012, ac ef oedd Dirprwy Brif Weinidog Cymru rhwng 2007 a 2011.
Gadawodd Mr Jones ei rôl fel AC yn 2013 i arwain Parc Gwyddoniaeth Menai.
Roedd sedd Ynys Môn yn nwylo'r Ceidwadwyr rhwng 1979 a 1987.
Fe fydd UKIP yn cyhoeddi enw eu hymgeisydd nhw ar gyfer yr etholaeth ddydd Iau.
Bydd rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael unwaith i'r enwebiadau gau ar 11 Mai.