Gwobr dylunio i ganolfan ymchwil Prifysgol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Canolfan Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd wedi ei henwi fel Prosiect y Flwyddyn yng ngwobrau dylunio blynyddol Cymru.
Derbyniodd y ganolfan, wnaeth gostio £44m, y wobr gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, sy'n cydnabod prosiectau sy'n arloesi ac yn cynnig manteision cymunedol.
Cafodd y ganolfan ei chanmol am "gynllun amlsynhwyraidd a manwl".
Mae carchar, capel a chanolfan ymwelwyr castell hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth gan y corff.

Mae Canolfan CUBRIC yn gartref i bedwar o sganwyr arbenigol o dan yr un to, ac mae'n cael ei ystyried yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer delweddu'r ymennydd.
Mae'n arloesi drwy'r byd am ei ymchwil mewn seicoleg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth.
Dywedodd beirniaid y RICS fod y ganolfan yn "cwmpasu'r clwstwr o sganwyr delweddu ymennydd unigryw, gyda dyluniad yr adeiladau cyfagos yn gytûn, a hynny drwy adlewyrchu'r gwaith niwrowyddoniaeth" sy'n digwydd yno.
Mae'r enillwyr eraill yn cynnwys:
Cornerstone, hen Gapel Ebeneser yng Nghaerdydd am Adeiladu Cadwraeth;
Carchar Y Berwyn, Wrecsam ar gyfer Budd Cymunedol;
Canolfan Ymwelwyr Castell Harlech, Gwynedd am Dwristiaeth a Hamdden;
Enillodd un o swyddfeydd Sgwâr Canolog Caerdydd y wobr Fasnachol.
Bydd yr holl enillwyr nawr yn cystadlu yn Rownd Derfynol Gwobrau RICS ar 2 Tachwedd yn Llundain, am y cyfle i gael eu coroni'n enillydd cyffredinol y DU yn eu categorïau unigol.