Carwyn Jones eisiau mwy o fuddsoddiad o'r Dwyrain Canol
- Cyhoeddwyd

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyfarfod ag uwch swyddogion o Qatar Airways a banciau yn y Dwyrain Canol, wrth iddo ymweld â Doha dros y penwythnos.
Yr wythnos hon cyhoeddodd y cwmni awyrennau y byddan nhw'n dechrau teithiau rhwng Doha a Chaerdydd yn 2018 - y tro cyntaf y bydd modd hedfan yn uniongyrchol o Gymru i'r Dwyrain Canol.
Mae disgwyl i Mr Jones gyfarfod Prif Swyddog Gweithredol Qatar Airways, Akbar Al Baker, yn ogystal ag uwch swyddogion o Fanc Islamaidd Rhyngwladol Qatar, Awdurdod Buddsoddi Qatar a Banc Cenedlaethol Qatar.
'Mwy o fuddsoddiad'
Cyn teithio i Doha, dywedodd y prif weinidog y byddai'r gwasanaeth awyr newydd yn "agor cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y byd".
"Bydd hefyd yn dod yn agosach at rai o'r prif farchnadoedd byd-eang, fel India, China, Singapore ac Awstralasia," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn "ddechrau ar berthynas arbennig newydd gyda Qatar a'r Dwyrain Canol", ac y byddai'r cyswllt newydd yn fodd o "ysgogi mwy o fuddsoddiad gan y Dwyrain Canol".
"Wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol y tu allan i'r UE, mae'n bwysicach nag erioed i werthu Cymru i'r byd a chyfarfod buddsoddwyr posib o bedwar ban i ddangos iddyn nhw yn union beth sydd gan Gymru i'w gynnig," meddai.