Teithwyr trenau yn gorfod aros oriau
- Cyhoeddwyd

Teithwyr yn aros yng ngorsaf Didcot Parkway
Dywed teithwyr ar drenau o dde Cymru "nad oes ganddynt syniad pa bryd y byddant yn cyrraedd gartref" ar ôl problemau signalau rhwng Caerdydd a Llundain.
Mae'r holl drenau ar y lein wedi eu hatal tra bod y broblem rhwng Swindon a Didcot Parkway yn cael ei datrys.
Dywedodd un teithiwr wrth BBC Cymru fod yna "bobl yn crio" yng ngorsaf Didcot tra bod un ferch wedi methu pen-blwydd ei mam.
Mae Network Rail yn cynghori pobl i beidio â theithio ar hyn o bryd.
Ymhlith y rhai sydd wedi eu heffeithio mae teithwyr ar y gwasanaeth 13:33 o orsaf Paddington i Gaerdydd.
Dywedodd un o'r teithwyr eu bod wedi bod yn eistedd ar y trên am oriau yn Swindon cyn cael eu cymryd i orsaf Didcot.
"Y cyfan sydd wedi digwydd ydi bod ni wedi cael dod yn nôl i'r orsaf er mwyn i ni allu cerdded ychydig, ond does neb fel eu bod yn gwybod sut y byddwn yn cyrraedd yn ôl adref.
"Fe ddylwn i wedi bod nôl gartref erbyn 15:30 ar oll rydym wedi cael i'w paned o de."
Mewn datganiad dyweddodd Network Rail fod y problemau signalau wedi achosi "trafferthion mawr" i wasanaethau rhwng Abertawe, Bryste a Paddington.
"Ar hyn o bryd mae'r lein wedi ei chau, a does dim modd i drenau ddefnyddio'r lein tra bod y gwaith atgyweirio yn mynd rhagddo. Mae disgwyl i'r oedi bara tan ddiwedd y dydd."