Galw am wirfoddolwyr i hybu'r celfyddydau ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r ganolfan fwyaf ar gyfer y celfyddydau perfformio yng Nghymru wedi lansio apêl am tua 200 o wirfoddolwyr di-dâl er mwyn rhoi help llaw i'r sefydliad.
Dywedodd Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd na fydd y cynllun recriwtio yn effeithio ar waith y 400 sy'n gweithio yno.
Yn ôl llefarydd fe fyddai'r gwirfoddolwyr yn derbyn costau teithio.
Cafodd y cynllun ei ysbrydoli gan gyfres o ddigwyddiadau'r llynedd i ddathlu canrif ers geni Roald Dahl, wrth i 5,000 o wirfoddolwyr helpu gyda'r trefniadau bryd hynny.
Yn ôl y rheolwr gyfarwyddwr Mathew Milsom mae nifer o sefydliadau celfyddydol yn defnyddio gwirfoddolwyr er mwyn "gwella mynediad i gelf, diwylliant a chreadigrwydd mewn ffordd wreiddiol a gwerthfawr".
Fe fydd y gwirfoddolwyr yn derbyn gwisg bwrpasol, hyfforddiant ac yn cael gwylio perfformiadau am ddim.