Heddlu Dyfed-Powys yn dod o hyd i gorff ger Llangrannog
- Cyhoeddwyd

Mae teulu Arthur Taylor sydd wedi bod ar goll ers 15 Ebrill wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf
Mae'r heddlu yng Ngheredigion yn ymchwilio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod ar yr arfordir ger Llangrannog tua 14:45 dydd Sul.
Fe wnaeth yr heddlu dderbyn cymorth Gwylwyr y Glannau a'r RNLI er mwyn dod a'r corff i'r lan.
Mae teulu Arthur Taylor wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Fe wnaeth Mr Taylor, 90 oed, fynd ar goll o'i gwch yng nghyffiniau Gwbert ar ddydd Sadwrn 15 Ebrill.
Mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i Swyddfa'r Crwner.