Chwilio am fam a mab o Abertawe sydd ar goll
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn chwilio am ddynes o Abertawe a'i mab sydd ar goll.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod Angharad Bullock, 39, a'i mab, sy'n dair oed, ar goll ers 28 Ebrill.
Mae swyddogion yn pryderu am ddiogelwch y ddau.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101.