Gorsafoedd pleidleisio ar agor yn yr etholiadau lleol
- Cyhoeddwyd

Mae gorsaf bleidleisio Mynachlog-ddu yn Sir Benfro yn festri'r capel lleol, Capel Bethel
Mae pobl ar hyd a lled Cymru wedi bod yn pleidleisio ar gyfer etholiadau lleol ym mhob un o'r 22 o siroedd yng Nghymru ddydd Iau.
Mae ymgeiswyr yn brwydro dros 1,161 o seddi, gan fod 92 ymgeisydd eisoes wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad, tra bod un ward ym Mhowys heb yr un ymgeisydd ynddi.
Yn ogystal â'r etholiadau cyngor sir, mae etholiadau cynghorau tref a chymuned hefyd yn cael eu cynnal.
Bydd 13 o gynghorau yn cyfrif dros nos, nos Iau, gyda naw arall yn dechrau cyfrif fore dydd Gwener.
Bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 22:00 nos Iau a gallwch gael y newyddion diweddaraf a'r canlyniadau ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 22:00 ymlaen.


Cyfri dros nos:
Merthyr Tudful
Blaenau Gwent
Sir y Fflint
Wrecsam
Sir Fynwy
Pen-y-bont
Castell-nedd Port Talbot
Abertawe
Ceredigion
Torfaen
Casnewydd
Caerdydd
Bro Morgannwg
Cyfri dydd Gwener:
Caerffili
Sir Ddinbych
Conwy
Sir Gaerfyrddin
Rhondda Cynon Taf
Powys
Ynys Môn
Sir Benfro
Gwynedd
