Huddersfield 0-3 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Kenneth Zohore wedi sgorio 12 gôl i Gaerdydd y tymor hwn
Mae Caerdydd yn gorffen y tymor yn ddeuddegfed yn nhabl y Bencampwriaeth wedi buddugoliaeth o 3 i 0 yn erbyn Huddersfield.
Daeth y gôl gyntaf o beniad gan Kenneth Zohore yn y seithfed munud.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Huddersfield pan gafodd eu golgeidwad Danny Ward gerdyn coch wedi 20 munud o chwarae am drin y bêl y tu allan i'r cwrt cosbi.
Fe wnaeth Caerdydd y gorau o'r fantais, wrth i Joe Bennett daro cefn y rhwyd naw munud yn ddiweddarach, a selio'r fuddugoliaeth gydag ail gôl yn yr ail hanner.
Er iddyn nhw gael eu trechu, mae Huddersfield eisoes yn y gemau ailgyfle ac fe fyddan nhw'n wynebu Sheffield Wednesday nesaf yn eu hymdrech i godi i Uwch Gynghrair Lloegr.
I'r Adar Gleision, mae hwn yn ddiwedd calonogol i'r tymor, o ystyried iddyn nhw ddisgyn i waelodion tabl y Bencampwriaeth cyn i Neil Warnock gael ei benodi'n lle Paul Trollope fis Hydref.