Damwain angheuol ger Machynlleth
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi damwain angheuol yn Aberhosan, ger Machynlleth.
Digwyddodd y ddamwain am oddeutu 09:30 fore Llun rhwng car coch Xsara Picasso a beic modur arian.
Bu farw gyrrwr y beic modur, oedd yn 67 mlwydd oed.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.