Ceisio cadw gwaharddiad ar weithwyr asiantaeth mewn streic
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynlluniau fyddai'n gwarchod rheolau sydd ar hyn o bryd yn atal cyflogwyr rhag defnyddio gweithwyr asiantaeth os oes streic.
Yn 2015 fe wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori ar newid y rheolau hynny, ond chafodd y syniad ddim ei weithredu.
Mae gweinidogion Cymru nawr yn awyddus i gyflwyno newidiadau i'r Mesur Undebau Llafur er mwyn atal unrhyw newid i'r rheolau rhag effeithio ar wasanaethau Cymreig.
Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud fod undebau llafur yn "gofyn am ffafr yn ôl" gyda'r mesur.
'Dim effaith yng Nghymru'
Ar hyn o bryd mae rheoliadau cyflogaeth yn atal cwmnïau a sefydliadau rhag defnyddio gweithwyr asiantaeth os yw un o'u gweithwyr nhw ar streic.
Mae Llywodraeth y DU wedi edrych ar gael gwared ar y rheolau hynny, gan ddweud eu bod nhw eisiau lleihau effaith streiciau ar wasanaethau cyhoeddus.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw addasu'r Mesur Undebau Llafur sydd yn cael ei drafod yn y Cynulliad ar hyn o bryd, fel bod y cyfyngiadau yn parhau yng Nghymru hyd yn oed os yw San Steffan yn penderfynu cael eu gwared yn y dyfodol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford mai'r bwriad oedd sicrhau bod "gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ddim yn cael eu heffeithio ac y byddai'r safbwynt cyfreithiol presennol yn aros yn ei le".

Dywedodd Mark Drakeford wrth bwyllgor Cynulliad ym mis Mawrth ei fod yn poeni y gallai Llywodraeth y DU atal y Mesur Undebau Llafur
Mae Deddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU wedi ei gwneud hi'n anoddach galw am streic, ond bwriad mesur Llywodraeth Cymru yw sicrhau na fydd hynny'n berthnasol i Gymru.
Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi dweud y gallai Llywodraeth y DU geisio gwyrdroi'r mesur os yw'n cael ei basio yn y Cynulliad.
Dywedodd Andrew RT Davies fod streiciau mewn "gwasanaethau cyhoeddus pwysig" yn creu anghyfleustra "anferth... [i'r] bobl fregus sydd yn dibynnu ar y gwasanaethau hynny".
"Mae'n edrych i mi fel bod [yr undebau] yn galw am ffafr yn ôl ar ôl cyfrannu at gost yr etholiad cyffredinol nawr ac etholiadau'r Cynulliad llynedd," meddai.
'Ansicrwydd'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Sian Gwenllian, y byddai ei phlaid yn cefnogi'r "cam rhagofalus" hwn gan lywodraeth Lafur Cymru.
Ond ychwanegodd ei bod hi "dal yn ansicr a yw'r mesur yma yn gyfreithlon ai peidio".
Cafodd cynnig Llywodraeth Cymru ei groesawu gan y Democratiaid Rhyddfrydol, a ddywedodd y byddai'n ffordd o "amddiffyn pob gweithiwr".
Dywedodd llefarydd UKIP ar lywodraeth leol, Gareth Bennett eu bod yn cefnogi "ysbryd" y Mesur Undebau Llafur, ond fod Llywodraeth y DU eisoes wedi dweud y byddan nhw'n ceisio "cipio'r pwerau yn ôl" petai'n cael ei basio.