Dyn wedi marw mewn tân damweiniol yn Aberdâr
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw mewn tân yn ei gartref yn Aberdâr.
Mae'r gwasanaeth tân yn dweud bod y tân wedi ei gynnau yn ddamweiniol.
Fe ddaeth y gweithwyr tân o hyd i'r dyn yn ei fflat yn Aberman nos Iau.
Y gred yw bod y dyn yn ei 60au.