Digwyddiadau ar draws y byd i gofio'r bardd Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd

Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y byd i gofio'r bardd o Gymru, Dylan Thomas.
Yn 2014 y digwyddodd 'Dydd Dylan' gyntaf a hynny am fod yna alw i gael diwrnod o'r fath wedi'r cyhoeddusrwydd i ddathliadau canmlwyddiant yr ysgrifennwr o Abertawe.
Mae'r dyddiad- 14 Mai- yn arwyddocaol am mai dyma pryd y cafodd y darllediad cyntaf o Under Milk Wood ei ddarllen ar lwyfan y Poetry Centre yn Efrog Newydd yn 1953.
Pwrpas y diwrnod yw rhoi gwybod i gymaint o bobl a phosib am ei waith ym Mhrydain ond hefyd y tu hwnt.
Erbyn hyn mae'r digwyddiadau yn para mwy na diwrnod gyda Seremoni Wobrwyo Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas ar 10 Mai sef gwobr am y gwaith llenyddol gorau yn Saesneg gan awdur sydd yn 39 oed neu iau.
Menyw o Awstralia, Fiona McFarlane, wnaeth gipio'r wobr eleni ar gyfer ei llyfr The High Places.
Dydd Sul mae gwaith Dylan Thomas yn cael ei gofio gyda digwyddiadau yn nhafarn y Wheatsheaf yn Fitzrovia, Llundain ac yng nghanolfan Cymry Llundain.

Mae perfformiad yr actor Michael Sheen yn Efrog Newydd yn cael ei recordio ar gyfer y we
Yn yr ardal lle cafodd ei fagu mae Cymdeithas Dylan Thomas, Man Geni Dylan Thomas a Chôr Meibion Dyfnant wedi bod yn trafod ei fywyd trwy ddefnyddio geiriau a chaneuon nos Sadwrn ac mae amryw o weithgareddau yn ystod 'Dydd Dylan' gan gynnwys taith tywys a chyfle i fwynhau sgyrsiau, ffilm a jas yn y nos.
Yng Nghastell y Waun bydd gweithdy ysgrifennu agored a bydd Bardd Cenedlaethol Cymru ac Awdur Pobl Ifanc Cymru yn darllen barddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg.
Un peth sydd yn digwydd ar draws y dŵr yn Efrog Newydd yw perfformiad o Under Milk Wood yn 92nd Street gan yr actor Michael Sheen.
Mae digwyddiadau hefyd yn Awstralia, yr Eidal, Sweden, Portiwgal, Iwerddon a Patagonia.
Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu Dydd Dylan fel rhan o becyn cyllid tair blynedd.