'Anodd peidio' dilyn polisi Llafur y DU ar ffioedd dysgu
- Cyhoeddwyd

Gallai Cymru ddilyn trywydd Lloegr a diddymu ffioedd dysgu, os yw Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol.
Mae drafft o faniffesto Llafur y DU, gafodd ei gyhoeddi'n fuan yr wythnos hon, wedi addo cael gwared â'r ffioedd.
A phetai hynny'n digwydd, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y byddai'n "anodd dychmygu" sefyllfa ble byddan nhw'n parhau i fodoli yng Nghymru.
Ond mae pleidiau eraill wedi wfftio'r sylwadau, gan ddweud nad yw'n debygol o ddigwydd oherwydd "fydd Jeremy Corbyn ddim yn ennill yr etholiad".
'Effaith ar Gymru'
Mae ffioedd dysgu wedi eu datganoli i Gymru, a llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru amlinellu polisi newydd fyddai'n golygu grant i helpu myfyrwyr gyda chostau byw yn hytrach na'r ffioedd.
Mae plaid Lafur y DU wedi addo fodd bynnag y bydden nhw'n diddymu'r ffioedd yn llwyr petawn nhw'n cael eu hethol i lywodraeth ym mis Mehefin.
Gallai polisi o'r fath gostio dros £7bn y flwyddyn.
Wrth ymateb i hynny dywedodd Mr Jones: "Yn amlwg os nad oes ffioedd dysgu yn Lloegr, mae hynny'n bownd o gael effaith ar sut 'dyn ni'n gweld pethau yng Nghymru."

Ers 2012 mae Llywodraeth Cymru wedi talu cyfran sylweddol o ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru - polisi wnaeth gostio £237m yn 2015/16.
Mae wedi golygu mai dim ond £3,900 y flwyddyn mae myfyrwyr o Gymru yn ei dalu, yn hytrach na'r uchafswm o £9,000 mae prifysgolion yn gallu ei godi.
O fis Medi nesaf ymlaen mae disgwyl i bolisi newydd Llywodraeth Cymru ddod i rym, ble bydd myfyrwyr yn gorfod talu neu gymryd benthyciad ar gyfer swm llawn y ffioedd dysgu.
Ond fe fydd pob myfyriwr yn cael £1,000 y flwyddyn tuag at gostau byw, cyn ychwanegu grant pellach yn seiliedig ar brawf modd - gyda myfyriwr sydd yn dod o deulu ar y cyflog cyfartalog yn derbyn £7,000 y flwyddyn.
'Dim siawns o ennill'
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi wfftio sylwadau Carwyn Jones, fodd bynnag, gan fod y "wlad gyfan yn gwybod" nad yw Llafur yn mynd i ennill yr etholiad.
"Mae Kirsty Williams yn rhoi egwyddorion y Democratiaid Rhyddfrydol ar waith wrth sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn cael swm tebyg i'r cyflog byw cenedlaethol wrth iddyn nhw astudio," meddai llefarydd.
Ychwanegodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg ei fod yn "synnu bod Llywodraeth Cymru yn newid eu safbwynt ar y mater".
"Mae consensws gwleidyddol yng Nghymru o gwmpas argymhellion Adolygiad Diamond i'r adolygiad o gefnogaeth i fyfyrwyr, fydd y arwain at system sy'n deg i'n myfyrwyr, trethdalwyr a sector brifysgol," meddai.

Roedd y polisi ar ddiddymu ffioedd yn rhan o faniffesto drafft Llafur gafodd ei ryddhau'n gynnar yr wythnos hon
Dywedodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru mai "ychydig iawn o dystiolaeth oedd y bydd y prif weinidog yn cadw at ei air", hyd yn oed petai Llafur yn ennill mwyafrif yn San Steffan.
"Mae gan Blaid Cymru bolisi ers sbel o weithio tuag at ddiddymu ffioedd dysgu'n llwyr fel bod cymaint o bobl ifanc â phosib yn gallu cael mynediad at addysg uwch," meddai.
Dywedodd Michelle Brown o UKIP y gallai Llafur a Jeremy Corbyn "gynnig y byd ar blat ar hyn o bryd" gan eu bod nhw'n "gwybod na fyddan nhw'n ennill".
"Mae eu haddewidion nhw mor ddibwys felly a phob un arall yn eu maniffesto, ac mae hynny'n beth da, gan y byddai hynny wedyn yn gorfodi newid ar y bobl sy'n gyfrifol am addysg yng Nghymru," meddai.