Arestio pedwar dyn wedi lladrad honedig yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae heddlu'r De wedi arestio pedwar dyn ar ôl adroddiadau o ladrad mewn siop yn Nhreganna yng Nghaerdydd nos Wener.
Cafodd y pedwar, a oedd yn cael eu hamau, eu stopio gan heddlu arfog ar ffordd yr A48 ger yr Ysbyty Athrofaol. Roeddent yn teithio i gyfeiriad y dwyrain.
Mae'n debyg i'r lladrad honedig ddigwydd oddeutu 8.10 yn y nos mewn siop ar ffordd Atlas.
Bu'n rhaid cau ffordd yr A48 am gyfnod.
Mae'r pedwar dyn yn y ddalfa ac mae plismyn yn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth gysylltu â nhw ar 101.