Cais i ddatgymalu ac ailddatblygu Pier Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd

Mae cais wedi'i wneud i ddatgymalu ac ailddatblygu Pier Fictoria ym Mae Colwyn.
Fe wnaeth rhan o'r pier ddisgyn i'r môr ym mis Chwefror, ac yna fe wnaeth tân gynnau yno ym mis Mawrth.
Y perchnogion, Cyngor Conwy sydd wedi cyflwyno'r cais cynllunio ar gyfer yr adeilad rhestredig Gradd II.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys ailddatblygu pier byrrach, gan gofnodi a storio elfennau er mwyn eu hail-ddefnyddio mewn gwaith adfer yn y dyfodol.

Roedd y pier 116 mlwydd oed eisoes ar gau i'r cyhoedd am resymau diogelwch cyn iddo ddisgyn i'r dŵr.
Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y cais, gyda chyngor gan CADW.
Fe wnaeth y cyngor bleidleisio i ddymchwel y pier yn 2013, ond cafodd y cais ei wrthod gan Lywodraeth Cymru yn 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2017

- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2017
