Y cyn blismon Evan John Hughes yn cofio arestio'r llofrudd Ian Brady.
Mae'r llofrudd plant Ian Brady, 79 oed, wedi marw.
Roedd e a'i gariad, Myra Hindley yn gyfrifol am farwolaethau pump o blant yn y 60au.
Cafodd ei garcharu yn 1966, ar ôl ei arestio yn Hydref 1965.
Ditectif gwnstabl ifanc o Ben Llyn, oedd yn gweithio yn Sir Caer ar y pryd, gafodd y dasg o warchod y llofrudd yn Swyddfa'r Heddlu yn Hyde.
Erbyn hyn mae Evan John Hughes yn ei 80au, yn son am ddigwyddiadau'r bore hwnnw dos hanner canrif wrth ohebydd BBC Cymru Alun Rhys.