Dyn 92 oed yn euog o gymell 'merched ifanc' ar-lein
- Cyhoeddwyd

Llun o Ivor Gifford, o fideo gafodd ei bostio ar-lein gan grŵp 'The Hunted One'
Mae llys wedi cael dyn 92 oed yn euog o geisio cymell merched ifanc i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw.
Roedd Ivor Gifford o Abertyleri, Blaenau Gwent, yn credu mai merched 11 a 12 oed roedd e'n cysylltu â nhw ar-lein.
Ond cyfrifon ffug oedden nhw, gafodd eu creu gan grŵp o'r enw 'The Hunted One' sy'n chwilio am droseddwyr rhyw.
Dywedodd Gifford ei fod yn credu bod pawb ar y wefan dros 18, ond daeth rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd i'r casgliad ei fod yn euog.
100 tudalen o negeseuon
Clywodd y llys bod Gifford wedi cysylltu â dau gyfrif dan yr enwau Jessie a Jodie.
Roedd wedi cysylltu â nhw "droeon" er iddo gael gwybod fwy nag unwaith bod y 'merched' yn 11 a 12 oed.
"Mewn dros 100 tudalen o negeseuon, fe welwch fod y rhan fwyaf yn cyfeirio at weithredu rhyw," meddai Owen Williams ar ran yr erlyniad.
Dywedodd bod Gifford wedi gyrru lluniau o'i hun yn noeth, a'i fod wedi gofyn a fyddai un o'r 'merched' yn gwisgo dillad rhywiol pe baen nhw'n cyfarfod.

Aeth aelodau o grŵp 'The Hunted One' i gwrdd â Gifford yng ngorsaf trenau Llanhiledd ger Abertyleri
"Aeth ymhellach wedyn, gan drefnu i'w chyfarfod wedi'r cysylltiad ar-lein," meddai Mr Williams.
"Fe roddodd gyfarwyddiadau i blentyn, sydd ddim yn gwybod sut i fynd o Gaerdydd i Abertyleri, sut mae dal bws ac wedyn trên."
Aeth dau aelod o 'The Hunted One' i gwrdd â Gifford yng ngorsaf drên Llanhiledd, ble roedd wedi trefnu i gyfarfod y 'ferch'.
Cafodd yr heddlu eu galw ac fe gafodd Gifford ei arestio.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 2 Mehefin.