Leinster 15-27 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Gareth Davies yn sgorio y trydydd cais y Scarlets
Roedd yna fuddugoliaeth i'r Scarlets yn Iwerddon nos Wener wrth iddyn nhw drechu Leinster o 12 pwynt yn y Pro 12 a hynny gyda 14 chwaraewr yn yr ail hanner.
Wrth deithio i Iwerddon roedd y Scarlets yn gwybod y byddai hi'n dipyn o dasg gan ei bod hi'n anarferol i Leinster golli gartref, ond roedd y Scarlets hefyd wedi ennill pum gêm yn olynol ac felly yn hyderus.
Roedd y Scarlets, yn amlwg, yn barod i gwrdd â'r her wrth iddynt fynd ar y blaen o 21 i 10 ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi i Steff Evans, Aaron Shingler a Gareth Davies sgorio cais yr un.
Ond ar ddiwedd yr hanner cyntaf roedd yna gerdyn coch i Steff Evans am dacl frwnt yn erbyn Garry Ringrose.
Fe gadwodd Scarlets eu tir yn rhyfeddol ond chwarter awr cyn y diwedd roedd yna gais i Leinster ond dim trosgais.
Bum munud wedyn roedd yna gic gosb gan Liam Williams i'r Scarlets, a chyn diwedd y gêm cic gosb arall ganddo ddaeth â'r sgôr terfynol i 15-27.
Bydd y Scarlets felly yn dychwelyd ymhen yr wythnos i rownd derfynol y Pro 12 yn Nulyn.