Gwastraff anghyfreithlon: Gorchymyn i dalu £339,000
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth yr awdurdodau ymchwilio i wastraff ar y safle yn Nant-y-glo
Mae perchennog cwmni sgipiau o Flaenau Gwent wedi cael gorchymyn i dalu £339,000 am waredu gwastraff yn anghyfreithlon.
Daw'r penderfyniad yn erbyn Adrian Lewis o Lyn Ebwy wedi gwrandawiad yn Llys y Goron Casnewydd.
Clywodd y llys fod ei gwmni, A Lewis and Co, wedi elwa o hyd at £950,000 drwy gael gwared â gwastraff yn anghyfreithlon.
Cafodd Lewis dri mis i dalu ac oni bai ei fod yn ufuddhau yna bydd yn wynebu pedair blynedd o garchar.
Ymchwilio wedi tân
Ddydd Mawrth dywedodd y barnwr Dan Williams fod Lewis wedi ceisio trosglwyddo arian er mwyn celu gwir werth ei gwmni.
Llwyddodd yr awdurdodau i ddod o hyd o asedau werth £73,000 a £39,000 oedd wedi eu cuddio.
Cafodd Lewis, 46 oed, ei garcharu am wyth mis yn 2015 ar ôl i lys ei gael yn euog o dorri rheolau gwaredu gwastraff.
Clywodd y llys yn yr achos gwreiddiol y byddai'n costio £1,354,000 i'r awdurdodau glirio'r safle.
Fe wnaeth yr awdurdodau ddechrau ymchwilio i gefndir ei gwmni ar ôl tân mawr wnaeth bara am 10 diwrnod yn Nant-y-glo yn 2013.
Roedd trigolion lleol wedi cwyno ers blynyddoedd am faint o wastraff oedd yn cael ei gadw, ac arogl drwg oedd yn dod o'r safle.