Eisteddfod Ela
- Cyhoeddwyd

Mae pob un ohonom yn gyfarwydd â bwrlwm ac antur Eisteddfod yr Urdd, codi'n fore i yrru i'r rhagbrofion a chroesi bysedd na fydd angen ôl y 'wellies' o fŵt y car!
Ond fyddai'r holl beth yn amhosib heb gyfraniad sêr y Steddfod: y plant a'r cystadleuwyr.
Un sy'n gyfarwydd iawn â chystadlu yw Ela Mablen Griffiths-Jones o Ysgol Gynradd Aberaeron sy'n rhannu ei dyddiadur hi o'i diwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái.
Ela o Ysgol Aberaeron sy’n rhannu ei dyddiadur hi o’i diwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd

Bu Ela'n cadw dyddiadur o'i hanturiaethau yn ystod y dydd…

Casglu sticeri, traddodiad pwysig erbyn hyn i Eisteddfodwyr brwd.