Steddfod yr Urdd: Iau
- Cyhoeddwyd
Mae amser yn hedfan! Mae hi'n ddydd Iau - diwrnod y Cadeirio. Dyma rai o uchafbwyntiau'r diwrnod mewn lluniau

Gwynfor Dafydd o Donyrefail oedd enillydd y gadair heddiw, a mae'n cipio'r wobr am yr ail flwyddyn yn olynol.

"Ble fi wedi gweld dy wyneb di o'r blaen?" Cwestiwn sy'n cael ei ofyn i Awen o Gaerdydd yn aml ar Faes yr Urdd. Edrychwch lan!

Mae'n mynd i fod yn heulog!

Rhinedd Williams ac Aled Rees, enillwyr Tlws John a Ceridwen Williams am gyfraniad sylweddol i waith ieuenctid.

Osian Roberts sydd wedi cynllunio a chreu'r Gadair.

Gweithdy Hwpiau Hula (oes yna derm Cymraeg?) ym Mhentref Mistar Urdd heddiw

Elen o Gaerdydd yn twtio cyn mynd ar y llwyfan i gystadlu yn y gystadleuaeth dawnsio gwerin

Rhai o staff yr Eisteddfod yn mwynhau hoe fach yn yr haul

Heledd Cynwal yn dangos i Lywydd y dydd, Martyn Geraint, ble mae'r camera

Rhai o'r darnau buddugol yn yr adran tecstiliau yn yr Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg

Mae'r haul mas...felly mae'r coesau mas!