Cyhoeddi manylion am ganolfan newydd yr Urdd yn Hwngari

  • Cyhoeddwyd
HwngariFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae lle i 20 o wersyllwyr yn yr adeilad ym mhentre Kizbodak yng ngogledd orllewin Hwngari

Bydd modd i wersyllwyr yr Urdd fynd dramor yn y dyfodol, wedi i'r mudiad gyhoeddi manylion am ganolfan newydd yn Hwngari.

Bydd lle i hyd at 20 o bobl yn y ganolfan sydd yng ngogledd orllewin y wlad, ger afon Donwy ar y ffin gyda Slofacia.

Dyn o'r enw Michael Makin drosglwyddodd y ganolfan i'r mudiad yn rhodd.

Fe gysylltodd gyda'r Urdd yn 2015 am ei fod yn chwilio am sefydliad ieuenctid a fyddai â diddordeb cymryd yr adeilad, cyhyd â'i fod yn cael ei ddefnyddio fel adnodd i bobl ifanc gael profiad o'r wlad.

Cliciwch yma am fwy o straeon o Eisteddfod yr Urdd, dolen allanol

HwngariFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr adeilad ei roi yn rhodd gan Michael Makin

HwngariFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Adeiladwyr a thrydanwyr o ogledd Cymru aeth allan i weithio ar yr adeilad

Wrth sôn am y prosiect, dywedodd Rhys Pinner o Wasanaeth Awyr Agored yr Urdd nad oedd gan Mr Makin gysylltiadau penodol â Chymru, ond ei fod yn arfer dod ar ei wyliau i Langrannog ac yn cofio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg.

Dywedodd: "Cyn derbyn y tŷ, roedd yn rhaid i dîm fynd allan i asesu'r adeilad i weld a oedd e'n addas i bobl ifanc ac i deithiau allan yna.

"Fe wnaeth Bwrdd Syr IfanC benderfynu bod yr adnodd yn Hwngari yn werth mynd amdano, ac erbyn mis Hydref 2015, roedd yn eiddo i'r Urdd."

HwngariFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd offer ar gael i'r gwersyllwyr roi cynnig ar weithgareddau gwahanol

Ychwanegodd: "Roedd angen i griw o adeiladwyr a thrydanwyr o ogledd Cymru fynd allan i wneud bach o waith ar y tŷ.

"Roedd angen rhoi waliau newydd i fyny. Mae lle nawr i 20 o bobl aros mewn pedair stafell wely. Heb help yr adeiladwyr o'r Bala, fasen ni ddim wedi gallu gwneud hyn."

'Meithrin cysylltiadau'

Mae Rhys yn dweud mai un o'r gobeithion yw meithrin cysylltiad gyda phobl yn Hwngari.

"Mae yna ysgol uwchradd yn yr ardal, ac maen nhw'n awyddus iawn i gwrdd â pobl ifanc o Gymru."

Y gobaith yw y bydd y gwersyllwyr cyntaf yn mynd allan i Hwngari yn ystod gwanwyn 2018.