Cei Connah: Arestio ail berson ar amheuaeth o lofruddio
- Cyhoeddwyd

Bu farw Matthew James Cassidy yn y digwyddiad yng Nghei Connah ddydd Llun
Mae ail berson wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i ddyn ifanc farw ar ôl cael ei drywanu yn Sir y Fflint.
Bu farw Matthew James Cassidy, 19 o Lannau Mersi, yn y digwyddiad yng Nghei Connah ddydd Llun.
Mae Heddlu Gogledd Cymru nawr wedi arestio dyn 18 yng Nglannau Mersi ar amheuaeth o lofruddio ac mae'n cael ei holi yn Llanelwy.
Mae dyn 48 oed gafodd ei arestio ar yr un cyhuddiad ddydd Llun yn parhau yn y ddalfa.
Cafodd tri arall - dyn yn ei 40au a dwy ddynes 19 a 60 oed - eu harestio ddydd Mawrth ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ond maen nhw oll wedi eu rhyddhau heb gyhuddiad bellach.