Cannoedd o blant yn dioddef problemau cwsg yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o blant yn cael eu trin ar gyfer problemau cysgu yng Nghymru bob blwyddyn.
Mewn rhai achosion mae, babanod, a phobl ifanc wedi cael eu derbyn i'r ysbyty gydag anhwylderau cysgu, ac yng ngogledd Cymru yn unig, mae'r nifer o blant a phobl ifanc sy'n cael meddyginiaeth i drin cyflyrau cwsg, wedi codi 20% dros y tair blynedd diwethaf.
Mae achosion wedi cynnwys anableddau niwrolegol difrifol ac epilepsi, ond dywedodd arbenigwyr fod llawer hefyd yn dioddef o anhunedd, cerdded wrth gysgu ac hunllefau cronig.
Dywedodd ymgyrchwyr y gallai nosweithiau di-gwsg "arwain at ganlyniadau difrifol".
Mae elusen sy'n ymwneud â phroblemau cwsg ymysg plant yn dweud bod llawer o deuluoedd bellach "bron mewn argyfwng" oherwydd diffyg cwsg ac mae defnyddio technoleg cyn mynd i'r gwely yn ffactor o bwys.
Cwsg mor bwysig ag ymarfer corff
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod cwsg mor bwysig i iechyd a lles y plentyn ag ydi bwyta'n iach ac ymarfer corff, a bod plant sydd â phatrymau cysgu gwael yn fwy tebygol o fod yn ordew.
Fe ddatgelodd ffigyrau a ddaeth i law y BBC o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth bod o leiaf 408 o blant wedi cael eu derbyn i ysbytai ledled Cymru, oherwydd anhwylderau cwsg ers mis Mawrth 2013.
Fodd bynnag, mae disgwyl i'r nifer fod yn llawer uwch gan nad yw dau fwrdd iechyd, sef Caerdydd a'r Fro a Phowys, wedi cyflwyno gwybodaeth.

Mae defnyddio technoleg fel ffôn symudol cyn mynd i gysgu yn gallu effeithio ar gwsg plant medd arbenigwyr
Dywedodd undeb athrawon NUT Cymru fod plant sy'n dangos arwyddion o amddifadedd cwsg a blinder yn y dosbarth yn achos pryder, gan nad ydyn nhw yn gallu canolbwyntio am gyfnodau hir.
"Gall hefyd gael effaith ar ddisgyblaeth, gyda disgyblion blinedig yn dueddol o fod yn fwy blin ac anystywall," meddai Owen Hathway, swyddog polisi NUT Cymru.
Dywedodd y Seicolegydd Amy McClelland, o Cwsg Cymru, bod plant yn cael eu "gor-gyffroi" cyn mynd i'w gwlau yn broblem gyffredin, ac felly fe ddylai teuluoedd fynd yn ôl at yr hen ffordd o fyw.
"Meddyliwch am y cartref teuluol yn y 1950aul.
"Pawb yn bwyta cinio fel teulu, darllen, sgwrsio, gwylio ffilm efallai, cyn rhoi'r goleuadau i ffwrdd ac yna mynd i'r gwely," ychwanegodd.