Marwolaeth Cei Connah: Dyn 19 oed yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn yng Nghei Connah yn Sir y Fflint yr wythnos ddiwetha' wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Yr Wyddgrug.
Bu farw Matthew James Cassidy, 19 o Lannau Mersi, yn y digwyddiad yng Nghei Connah ddydd Llun diwethaf.
Fe ymddangosodd David John Woods, o Lerpwl, o flaen ynadon ac fe fydd yn dychwelyd i Lys y Goron Yr Wyddgrug fore Mercher ar gyfer gwrandawiad cychwynol.
Mae dau ddyn arall gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael eu rhyddhau.
Dywed yr heddlu fod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw.