Gobaith o ddenu mwy o gampau mawr i Gymru

  • Cyhoeddwyd
baleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn codi tlws Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd

Yn dilyn llwyddiant rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd, mae Cymru'n gobeithio denu mwy o ddigwyddiadau chwaraeon mawr gan gynnwys y Tour de France a Phencampwriaeth Agored Golff Prydain.

Eisoes mae Cymru wedi cynnal Cwpan Ryder ym myd golff, Cwpan Rygbi'r Byd, gemau prawf criced Cyfres y Lludw a gemau pêl-droed mawr fel ffeinal Cwpan FA Lloegr.

Nawr mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau i ddenu mwy o ddigwyddiadau.

Dywedodd Mr Skates: "Ry'n ni wedi cael sgyrsiau cynhyrchiol gyda'r sefydliadau sy'n trefnu'r digwyddiadau yma."

Criced

Fe fydd y gêm griced rhwng Lloegr a Seland Newydd yn Nhlws Pencampwyr ICC yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, a bydd Stadiwm Morgannwg hefyd yn cynnal gemau yng Nghwpan Criced y Byd 2019.

Mae'r R&A - trefnwyr Pencampwriaeth Golff Agored Prydain - wedi cynnal y digwyddiad yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond does yr un o'r 145 pencampwriaeth wedi cael ei chynnal yng Nghymru.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw ychwanegu Cwrs Brenhinol Porthcawl i'r rhestr o gyrsiau ochr yn ochr â St Andrews a Muirfield.

Ychwanegodd Mr Skates: "Rwy'n credu, os ydyn ni'n galw'r bencampwriaeth yn un Agored Prydain, fe ddylai gael ei chynnal yng Nghymru ac rwy'n awyddus i sicrhau bod y trafodaethau yna'n digwydd gyda'r R&A.

CL
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gŵyl Cynghrair y Pencampwyr ym Mae Caerdydd yn llwyddiant mawr

"Byddaf yn cwrdd gyda'r R&A eto yn yr haf i drafod sut i symud hyn ymlaen. Rwy'n credu mai nawr yw ein hamser ni."

Daeth torf o 43,000 i weld Pencampwriaeth Hŷn Prydain yn 2014, ond fe fyddai angen gwaith sylweddol ar y cwrs cyn medru cynnal y brif gystadleuaeth. Fe ddaeth trof o 175,000 i weld y Bencampwriaeth Agored yn Royal Troon y llynedd.

Yn flaenorol mae'r R&A wedi dweud nad oes ganddyn nhw fwriad dod â'r gystadleuaeth i Gymru. Mae lleoliadau'r gystadleuaeth wedi eu trefnu eisoes hyd at 2020.

Dywedodd llefarydd ar ran yr R&A ddydd Mawrth: "Rydyn ni'n hapus gyda'r deg cwrs ar y rota a does gennym ni ddim cynlluniau i wneud newidiadau."

tour of britain
Disgrifiad o’r llun,

Mae cymalau o'r Tour of Britain wedi eu cynnal yng Nghymru ers blynyddoedd bellach

Seiclo

Mae proffil seiclo yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar oherwydd llwyddiant rhai fel Nicole Cooke a Geraint Thomas - i enwi ond dau enillydd medalau.

Wrth ystyried hynny dywedodd Mr Skates: "Mae rasys seiclo fel y Giro D'Italia a'r Tour De France wedi profi'n boblogaidd iawn, ac ry'n ni wedi profi ein gallu i gynnal digwyddiadau seiclo yng Nghymru... fe hoffwn ddenu mwy.

"Ry'n ni wedi siarad gyda threfnwyr y Giro a'r Tour ac fe fyddai hynny'n gyffrous dros ben."

Mae Cymru wedi cynnal cymalau o ras y Tour of Britain yn y saith ras ddiwethaf, ac yn mynd i gynnal y cymal olaf eleni.

Fe ddechreuodd y Tour De France yn Sir Efrog yn 2014, ac mae tîm digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau i ddod â'r ras i Gymru.