Cymru'n cofio dioddefwyr ymosodiad Llundain

  • Cyhoeddwyd
Borough MarketFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sawl neges a blodau eu gadael ar safle ymosodiad ar Borough Market, Llundain

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, cyngorau ac amryw o sefydliadau eraill am 11:00 ddydd Mawrth i gofio am ddioddefwyr yr ymosodiad yn Llundain nos Sadwrn 3 Mehefin.

Bu farw saith o bobl yn yr ymosodiad a chafodd nifer eu hanafu.

Fe gafodd tri ymosodwr eu saethu'n farw gan yr heddlu wedi iddyn nhw yrru fan dros gerddwyr ar London Bridge cyn trywanu pobl ar safle Borough Market.

Mae grŵp IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Tawelwch
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr ambiwlans ym Men-y-bont ar Ogwr yn ymdawelu i gofio dioddefwyr Llundain

Tawelwch
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau Cynulliad a gweithwyr yn ymuno yn y tawelwch.

Tawelwch
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd nifer o gynghorau yn y distawrwydd, fel y gweithwyr yma yng nghyngor Sir Conwy

Tawelwch
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr Heddlu Dyfed Powys yng Nghaerfyrddin

Tawelwch
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd carfan y Llewod â'r tawelwch yn ystod sesiwn hyfforddi yn Seland Newydd