Alun Wyn Jones i gapteinio'r Llewod yn y gêm nesaf
- Cyhoeddwyd

Alun Wyn Jones fydd y capten ddydd Sadwrn
Alun Wyn Jones fydd capten y Llewod yn ngêm nesaf eu taith yn Seland Newydd.
Y Cymry eraill yn y tîm i wynebu'r Crusaders fore Sadwrn fydd George North, Jonathan Davies, Liam Williams a Taulupe Faletau, gyda Ken Owens a Rhys Webb ar y fainc.
Er i'r Llewod golli yn erbyn y Blues fore Mercher, mynnodd yr hyfforddwr Warren Gatland fod eu perfformiadau'n gwella.
Mae eu gwrthwynebwyr nesaf, y Crusaders, yn ddiguro'r tymor hwn.