'Dynes wedi'i gorfodi i fan' ym Mhenybont
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi adroddiadau bod menyw wedi cael ei gorfodi i fynd mewn i fan ym Mhenybont yn erbyn ei hewyllys.
Y gred yw i'r fan stopio ger goleuadau traffig ar Rhiw Bryntirion ym Mhenybont oddeutu 17.34 nos Lun.
Dywedodd y sawl a ffoniodd yr heddlu bod y ddynes wedi dod allan o'r fan Transit, yna wedi cael ei dilyn gan ddyn a'i gorfodi i gefn y fan yn erbyn ei hewyllys cyn iddo yrru i ffwrdd.
Mae plismyn wedi disgrifio'r digwyddiad fel un "amheus" ac yn apelio am dystion.