Cwis newyddion yr wythnos

  • Cyhoeddwyd
cefnogwyr

1. Rhoddodd gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru rodd arbennig iawn tra'n gwylio'r gêm yn Serbia wythnos ddiwethaf - beth?

a) Cyfrifiadur i ysgol ym Melgrâd

b) Rhoi gwaed i gefnogwr Serbia oedd wedi'i anafu

c) Baner Serbia wedi ei wneud o gaws

Pwyswch yma am yr ateb.

line
Llys y Goron

2. Yn Llys y Goron Caerdydd, mae lleidr ceir newydd gael ei orchymyn i dalu £7,000 yn ôl i berchnogion y ceir wnaeth e eu dwyn. Ond sut gafodd y dyn ei ddal?

a) Ceisiodd werthu car yn ôl i'w berchennog gwreiddiol

b) Ceisiodd werthu car i aelod o'r heddlu

c) Ceisiodd ddwyn car ei frawd

Pwyswch yma am yr ateb.

line
betws

3. Pa adnodd lleol ym mhentref Betws, ger Y Fenni, sydd newydd dderbyn grant loteri o £3,000 er mwyn sicrhau fod e ddim yn gam?

a) Tŷ bach cyhoeddus

b) Twlc mochyn

c) Blwch ffôn

Pwyswch yma am yr ateb.

line
Bontnewydd

4. Diffyg darpariaeth ar gyfer pwy wnaeth achosi i fudiadau gwyno am gynlluniau ffordd osgoi Bontnewydd, ger Caernarfon?

a) Cerddwyr a seiclwyr

b) Moch daear

c) Plant ysgol cynradd lleol

Pwyswch yma am yr ateb.

line
coed

5. Bydd nifer o goed castan (chestnuts) yn Ninbych-y-pysgod yn cael eu dymchwel cyn hir, ond pam?

a) Mae ymwelwyr wedi bod yn cwyno am faw adar yn syrthio o'r coed

b) Mae eu gwreiddiau'n tanseilio hen wal y dref

c) Maen nhw'n dioddef o haint ffwngaidd

Pwyswch yma am yr ateb.

line
Castell Caernarfon, Yr Wyddfa ac Ystrad Fflur

6. Lansiwyd ymgyrch yn ystod yr wythnos i ddiogelu dyfodol pa atyniad enwog yng Nghymru?

a) Castell Caernarfon

b) Yr Wyddfa

c) Ystrad Fflur

Pwyswch yma am yr ateb.

line
y drindod

7. Yn ôl sibrydion gafodd eu lledu'r wythnos hon, pwy sydd yn bwriadu rhoi'r gorau i'w swydd o fewn y blynyddoedd nesaf?

a) Warren Gatland

b) Chris Coleman

c) Carwyn Jones

Pwyswch yma am yr ateb.

line