Cost anghydfod cyngor Caerffili yn codi i bron £3.2m
- Cyhoeddwyd

Mae cost ffrae am gynnydd i gyflogau uwch swyddogion Cyngor Caerffili wedi cyrraedd bron £3.2m.
Mae'r prif weithredwr yr awdurdod a dau swyddog arall i ffwrdd o'u gwaith ar gyflogau llawn ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru benderfynu yn 2013 bod y cynnydd i gyflogau yn anghyfreithlon.
Hyd yma, mae dros £1.8m wedi mynd tuag at eu cyflogau, a £900,000 arall ar gostau cyfreithiol.
Nawr mae cynghorwyr wedi penderfynu rhoi £469,000 arall i'r naill ochr i dalu am gostau pellach, os na fydd datrysiad i'r achos erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae hynny'n cynnwys cost o tua £1,000 bob dydd am ymchwil cyfreithiol allanol, y mae disgwyl iddo barhau am 100 niwrnod.

Cafodd achos troseddol yn erbyn Anthony O'Sullivan, Nigel Barnett a Daniel Perkins ei ollwng yn 2015
Bydd y gwariant ychwanegol yna'n golygu bod y costau gyfystyr â £37 i bob cartref yn y sir.
Cafodd y prif weithredwr Anthony O'Sullivan, ei ddirprwy Nigel Barnett a phennaeth gwasanaethau cyfreithiol, Daniel Perkins, eu gwahardd gan archwilwyr oedd o'r farn bod codiad cyflog i'r tri yn anghyfreithlon.
Yr honiad oedd bod y tri wedi cytuno i gynyddu eu cyflogau o 20%, ar gyfnod pan oedd cyflogau staff eraill wedi rhewi.
Cafodd achos troseddol yn erbyn y tri ei ollwng yn 2015, ond mae ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal.
Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan bwyllgor o gynghorwyr Caerffili, sy'n cael cyngor gan fargyfreithiwr.
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerffili, David Poole: "Mae nifer o bobl yn poeni am y cyfnod hir mae'n gymryd i ddatrys y mater yma a dwi'n deall a rhannu'r pryderon yma.
"Nid yw unrhyw un am weld adnoddau prin y cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu'r achos, ond y ffaith syml yw nad oes opsiwn arall gyda ni ond dilyn y broses statudol cywir."