Gwrthdrawiad Caergybi: Teyrnged i 'gymeriad poblogaidd'
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y gyffordd rhwng Stryd Wian a Ffordd Llundain
Mae teulu dyn 92 oed gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ffordd yng Nghaergybi wedi talu teyrnged i "dad a thaid cariadus".
Cafodd Edwards John Hughes, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Iori', ei daro gan Vauxhall Insignia du yn y digwyddiad ar Stryd Wian.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor cyn cael ei drosglwyddo i ysbyty arbenigol yn Stoke oherwydd ei gyflwr, ond bu farw'n ddiweddarach.
"Roedd Iori yn gymeriad lleol poblogaidd oedd yn adnabyddus i aelodau'r gymuned yng Nghaergybi," meddai ei deulu mewn datganiad.
"Bydd colled fawr ar ei ôl a fyddwn ni fyth yn ei anghofio."
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod nhw'n parhau i chwilio am dystion i'r gwrthdrawiad ychydig cyn 12:30 ar ddydd Sadwrn 3 Mehefin.