Ailagor rhan o'r A487 wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic
- Cyhoeddwyd

Mae rhan o'r A487 yng Ngheredigion bellach wedi ailagor yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Aberteifi a Thanygroes toc wedi 12:00.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod un person wedi eu trin ar ochr y ffordd, ond doedd dim manylion pellach am eu hanafiadau.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod tra bod ymchwiliadau'n parhau.