Cymru'n tawelu i gofio trychineb Tŵr Grenfell
Daeth pobl ar draws Cymru at ei gilydd fore Llun ar gyfer munud o dawelwch i gofio trychineb Tŵr Grenfell yn Llundain.
Aeth y tŵr yn ardal Kensington ar dân tua 01:00 ar 13 Mehefin. Mae 79 wedi marw neu ar goll yn dilyn y digwyddiad.
Ymysg y rhai a fu'n nodi'r munud o dawelwch oedd diffoddwyr tân yn Wrecsam.