Cabinet a rhieni ym Mhowys yn cwrdd i drafod ffrwd Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae 19 o ddisgyblion ar hyd o bryd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu
Mae aelodau cabinet Cyngor Powys wedi cwrdd â rhieni i drafod ddyfodol ffrwd Cymraeg un o ysgolion y sir.
Fe bleidleisiodd y cabinet o blaid cau ffrwd Gymraeg Ysgol Uwchradd Aberhonddu ym mis Mawrth.
Ond yn sgil yr etholiadau lleol, mae gan y cyngor arweinydd a chabinet newydd a chlymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r annibynwyr.
Dywedodd y cyngor yn gynharach eleni bod llai o ddisgyblion yn astudio trwy'r Gymraeg yn yr ysgol.
Yn ôl y cyngor bryd hynny, fe fyddai'r disgyblion yn cael "gwell addysg" mewn ysgol ddwyieithog newydd yn Llanfair-ym-Muallt, tua 17 milltir i ffwrdd.
Mynegodd rhieni bryderon y byddai'r newid yn cael effaith ar ddyfodol ysgol gynradd Gymraeg Aberhonddu, Ysgol Gynradd y Bannau.
Ymysg y rhai fu'n cwrdd â rhieni oedd arweinydd newydd y Cyngor, Rosemarie Harris.
Dywedodd James Evans, sy'n gyfrifol am adnoddau dynol ar y cyngor, bod y cabinet newydd "yn awyddus i gwrdd â'n cymunedau ni'n gyson i glywed eu barn".