Yr Athro Martin Rhisiart wedi marw yn 43 oed
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r economegydd, yr Athro Martin Rhisiart yn 43 oed.
Yn wreiddiol o Bontiets yn Sir Gaerfyrddin, roedd yn athro ym maes strategaeth ac arloesedd ym Mhrifysgol De Cymru, a chyn hynny yn economegydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Fe dderbyniodd radd o London Schools of Economics cyn mynd ymlaen i wneud gradd bellach a doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd hyfforddiant gyda'r Comisiwn Ewropeaidd cyn mynd i weithio gyda Phrifysgol Caerdydd. Daeth yn ddirprwy gyfarwyddwr yr ysgol fusnes yno.
Fe fyddai'n teithio dramor yn rheolaidd gyda'i waith, gan ddarlithio mewn nifer o wledydd gan gynnwys China, yr Unol Daleithiau a'r Eidal.
Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i raglenni Newyddion BBC Cymru.
'Effaith fawr'
Roedd yn aelod o sawl bwrdd allanol gan gynnwys tasglu gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru oedd yn edrych ar Ddinas-Ranbarthau, Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Menter a Busnes.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol De Cymru, yr Athro Julie Lydon fod "cymuned agos y brifysgol" yn teimlo ei golli yn fawr.
Ychwanegodd: "Cafodd ei ymchwil a'i waith addysgu effaith fawr yn ehangu gwybodaeth o fewn ei faes academaidd, yn natblygiad polisi ac yn fwy na dim ym mywydau eu gydweithwyr a'r myfyrwyr."
Mae'n gadael gwraig a dau o blant.