Dyn o Lantrisant wedi'i ladd yn Galway yn Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Iwerddon wedi cadarnhau mai dyn o Lantrisant a gafodd ei ladd yn Galway yn Iwerddon dros y penwythnos.
Cafodd y dyn 30 oed ei anafu'n ddifrifol ar ffordd Moycullen yn oriau mân ddydd Sadwrn wedi iddo gael ei daro gan gar.
Aed ag ef i Ysbyty'r Brifysgol yn Galway a bu farw nos Sadwrn.
Mae Heddlu Iwerddon yn apelio am dystion.
Mae'r crwner lleol wedi cael gwybod ac y mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.