Galw ar Tesco i ailfeddwl torri 1,100 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae Tesco wedi wynebu galwadau i roi'r gorau i'w cynlluniau i gau canolfan alwadau yng Nghaerdydd, gyda 1,100 o swyddi'n cael eu colli.
Bwriad yr archfarchnad yw ffurfio un canolfan yn Dundee, gan greu 250 o swyddi.
Dywedodd Tesco bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau bod y busnes yn "gynaliadwy ac yn gost-effeithiol".
Ond dywedodd AS Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin ei bod yn bwriadu ysgrifennu at Ysgrifennydd Busnes y DU mewn ymgais i gadw'r ganolfan.
"Fe fydda i'n ceisio cael Tesco i ailystyried," meddai.
Yr Alban yn 'tanseilio' Cymru?
Yn y cyfamser, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ei fod wedi "herio" prif weithredwr yr archfarchnad, Matt Davies, dros y penderfyniad.
"Rwy'n bwriadu cwrdd â'r gweithwyr a thrafod â'r undebau sy'n eu cynrychioli i weld pa opsiynau eraill allwn ni gyflwyno," meddai Mr Cairns.
"Mae e [Matt Davies] wedi cytuno i wrando ar y dadleuon y byddwn yn rhoi 'mlaen.
"Rydw i hefyd eisiau gwybod sut becyn cymorth allai fod ar gael, mewn cysylltiad â symud rhai swyddi i Dundee.
"Rydw i eisiau gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n cael ein tanseilio gan Lywodraeth Yr Alban o ran hynny."
Mae Tesco yn bwriadu cau'r ganolfan alwadau yn ardal Y Mynydd Bychan ym mis Chwefror 2018.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2017
