Gwrthdrawiad angheuol Porthmadog: Cyhoeddi enw dynes
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw'r ddynes fu farw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A487 ger Porthmadog yng Ngwynedd ddydd Sul.
Roedd Jacky Owen, 49 oed, yn dod o ardal Stoke-on-Trent.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad rhwng sgwter a lori HGV ychydig cyn 14:15.
Mewn datganiad dywedodd teulu Ms Owen ei bod "yn mynd allan ar ei sgwter yn gyson a byddai'n ymweld â gogledd Cymru yn aml".
"Bydd yna golled fawr ar ei hôl. Mae ein calonnau wedi eu torri a bydd bywyd ddim yr un peth hebddi hi."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r Uned Plismona Ffyrdd ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod V094381.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2017
