Hurricanes 31-31 Y Llewod

  • Cyhoeddwyd
Tommy SeymourFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Tommy Seymour ddau gais i'r Llewod

Cafodd Y Llewod siom arall ddydd Mawrth wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn yr Hurricanes yn Stadiwm Westpac yn Wellington.

Daeth pwyntiau cynta'r gêm trwy gic gosb gan Dan Biggar, cyn i waith da gan y maswr Greig Laidlaw arwain at gais i'w gyd-Albanwr Tommy Seymour.

Llwyddodd Biggar gyda'r trosiad cyn ychwanegu triphwynt arall ychydig funudau'n ddiweddarach.

Fe darodd yr Hurricanes 'nôl wrth i'r blaenasgellwr Callum Gibbins wthio ei ffordd dros y llinell gais, cyn i Jordie Barrett ei throsi.

Ychwanegodd Biggar gic gosb arall i'r Llewod cyn i George North sgorio ail gais yr ymwelwyr.

Fe wnaeth maswr Cymru ychwanegu'r trosiad i'w gwneud yn 7-23 ar yr egwyl.

George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cais George North oedd y cyntaf i'r asgellwr sgorio ar y daith eleni

Cafodd y tîm cartref ddechrau gwych i'r ail hanner, wrth i'r canolwr Ngani Laumape groesi yn y gornel.

Fe wnaeth Barrett ei throsi cyn ychwanegu cic gosb i ddod a'r Hurricanes o fewn chwe phwynt i'r Llewod.

Ond fe darodd yr ymwelwyr yn ôl yn syth gyda chic gosb gan Biggar, gyda'r maswr Te Toiroa Tahuriorangi yn gweld cerdyn melyn am dacl uchel.

Fe wnaeth Y Llewod gymryd mantais o'r cerdyn melyn wrth i waith da gan yr olwyr arwain at ail gais i'r asgellwr Tommy Seymour.

Ngani LaumapeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Dan Biggar ddim yn gallu atal Ngani Laumape rhag sgorio

Fe welodd y clo Iain Henderson gerdyn melyn gyda 15 munud yn weddill am dacl beryglus ar Barrett, ac fel Y Llewod yn gynharach, fe wnaeth yr Hurricanes gymryd mantais.

Yr eilydd Wes Goosen sgoriodd y cais, gyda Barrett yn llwyddiannus gyda'r pwyntiau ychwanegol.

Roedd hi'n gyfartal 31-31 ychydig funudau'n ddiweddarach wedi i Vaea Fifita sgorio cais, a Barrett ei throsi.

Er i'r ddau dîm bwyso am y pwyntiau fyddai wedi ennill y gêm, doedd neb yn gallu torri trwy'r amddiffyn.

Iain HendersonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Y Llewod ei chael yn anodd ymdopi yn dilyn cerdyn melyn Iain Henderson

Roedd y gêm yn gyfle i'r garfan ennill lle yn y tîm ar gyfer yr ail brawf, ond mae'n annhebygol y bydd llawer wedi llwyddo i wneud hynny yn dilyn y canlyniad siomedig.

Cafodd Leigh Halfpenny ei enwi ar y fainc ychydig oriau cyn y gic gyntaf oherwydd salwch i Jared Payne, a bu'n rhaid iddo ddod i'r maes wedi dim ond 18 munud oherwydd anaf i Robbie Henshaw.

Gallwch ddilyn yr ail brawf ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 08:00 fore Sadwrn.

Straeon perthnasol