Ymosodiad Finsbury Park: Dyn o Gaerdydd yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae Darren Osborne yn byw yn ardal Pentwyn yng Nghaerdydd
Mae dyn o Gaerdydd wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o droseddau'n gysylltiedig ag ymosodiad yn Llundain yr wythnos diwethaf.
Cafodd Darren Osborne ei arestio wedi'r digwyddiad yn Finsbury Park yn oriau mân bore Llun, 19 Mehefin.
Mae wedi'i gyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio mewn cysylltiad â'r ymosodiad.
Fe wnaeth Mr Osborne ymddangos yn llys yr Old Bailey fore Mawrth trwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn llys eto ar 20 Gorffennaf.
Bu farw dyn 51 oed o ogledd Llundain, Makram Ali, ac anafwyd nifer wedi i fan gael ei gyrru i dorf o addolwyr Mwslemaidd yn yr ymosodiad.