Teyrnged i Iris Jones
Bu farw'r actores Iris Jones yn 82 mlwydd oed.
Rhwng 1997 a 2005, bu'n portreadu cymeriad Beryl Nicholas, mam Casi, yn yr opera sebon Pobol y Cwm.
Yn wreiddiol o Ben Llŷn, aeth ymlaen i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, cyn ymuno ag adran gyflwyno TWW.
Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Gwener, bu'r actores Rhian Morgan yn rhoi teyrnged iddi.