Thomas yn cadw'r crys melyn yn y Tour de France
- Cyhoeddwyd

Bydd Geraint Thomas yn gwisgo crys melyn y Tour de France unwaith eto ddydd Llun er nad enillodd ail gymal y ras.
Marcel Kittel o'r Almaen oedd y cyntaf i gyrraedd y llinell derfyn yn Liege, gyda Thomas yn seithfed.
Mewn glaw trwm ac amgylchiadau anodd, cafodd Thomas a phencampwr y llynedd, Chris Froome, hefyd o Team Sky, ddamwain ar hyd y daith, ond llwyddodd Thomas i gyrraedd y terfyn yn ddianaf.
Ond Geraint Thomas sy'n parhau ar frig y tabl ar sail amser.

Dywedodd Geraint Thomas fod y profiad o ddod yn fuddugol yn y ras yn erbyn y cloc ddydd Sadwrn yn anghredadwy, a diolchodd i'w gefnogwyr am eu dymuniadau da.
Bydd y trydydd cymal yn dechrau yn Verviers yng Ngwlad Belg ddydd Llun, ac yn croesi'r ffin i Ffrainc cyn gorffen yn Longwy.

Tabl y Tour de France wedi dau gymal
1. Geraint Thomas (Prydain/Team Sky) - 4:53:10"
2. Stefan Kueng (Swisdir/BMC Racing) - +5 eiliad
3. Marcel Kittel (Yr Almaen/Quick-Step) - +6 eiliad
4. Vasil Kiryienka (Belarws/Team Sky) - +7 eiliad
5. Matteo Trentin (Yr Eidal/Quick-Step) - +10 eiliad
6. Chris Froome (Prydain/Team Sky) - +12 eiliad

Gallwch wylio uchafbwyntiau'r Tour de France ar S4C yn ddyddiol.