Dynes wnaeth golli babi yn gwadu gyrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd

Mae mam wnaeth golli ei babi a lladd gyrrwr arall wrth geisio pasio dau gar wedi gwadu ei bod wedi gyrru'n "beryglus".
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Laura Matthews-James, 35, wedi "rhuo" heibio i ddau gar cyn taro cerbyd Robert Hitchcock, 54, fu farw yn y gwrthdrawiad ar 26 Chwefror 2016.
Cafodd Ms Matthews-James ei rhuthro i'r ysbyty ond bu farw ei babi oedd saith mis yn y groth, a bu'n rhaid iddi roi genedigaeth brys.
Roedd Ms Matthews-James yn teithio i'w gwaith yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar y pryd, ond gwadodd ei bod hi wedi bod yn goryrru am ei bod hi'n hwyr.
'Heb gymryd risg'
Dywedodd Ms Matthews-James nad oedd hi'n cofio'r gwrthdrawiad o gwbl, ond na fyddai hi wedi gorfod gyrru'n beryglus a'i bod hi ond wedi ceisio pasio'r ceir o'i blaen am eu bod nhw'n mynd yn araf.
"Bydden i ddim wedi cymryd unrhyw risg am fy mod i'n disgwyl. Roedd fy mos yn ddigon hyblyg cyn belled ag fy mod i yno tua 09:00."
Dywedodd Ignatius Hughes QC ar ran yr amddiffyniad fod Ms Matthews-James yn dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) o ganlyniad i'r gwrthdrawiad a cholli ei babi.
"Mae'n dweud nad yw hi eisiau dod â phlentyn i'r byd achos yn ei geiriau hi ' dwi wedi lladd fy mabi'," meddai.

Dywedodd Jim Davies ar ran yr erlyniad fod Ms Matthews-Davies wedi colli rheolaeth o'i cherbyd wrth geisio pasio dau gar, a tharo'n syth i mewn i gerbyd Mr Hitchcock.
Clywodd y llys fod rhywfaint o fwd ar y ffordd allai fod wedi creu trafferthion, ac na chafodd Mr Hitchcock unrhyw amser i ymateb cyn cael ei ladd bron yn syth yn y gwrthdrawiad.
Clywodd y llys hefyd fod Ms Matthews-James wedi dod yn feichiog ym mis Gorffennaf 2015 gyda'i gŵr Andrew ar ôl blynyddoedd o driniaethau.
Mae Ms Matthews-James, o Benygroes, Sir Gâr, yn gwadu achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, ac mae'r achos yn parhau.