Lluniau Gŵyl Nôl a Mla'n 2017
- Cyhoeddwyd
Ble well i dreulio penwythnos poeth o haf nac ar lan y môr? Dyma rai o uchafbwyntiau Gŵyl Nôl a Mla'n 2017 trwy lens y ffotograffydd Lleucu Meinir.

Mae plant y pentre wedi darganfod llecyn gwylio da!

Clocsffit ydy'r weithgaredd hon. Edrych yn waith caled i ni!

Dyddiau olaf o ryddid! Dau barti plu yn mwynhau ar y traeth

Boi prysur ydy'r Yws Gwynedd 'ma

Sgwn i fydd Richard Rees yn chwarae un o ganeuon Elin Fflur ar ei raglen fore Sul ar Radio Cymru?

Barod amdani. Mabli Tudur a'r Band

Mari Mathias yn swyno'r gynulleidfa nos Wener

Mellt yn drydanol ar y llwyfan

Pa hwyaden enillodd? Yr un felen!

Y bytholwyrdd Tecwyn Ifan yn mwynhau bod nôl yn y gorllewin

Trwbz yw'r rhain. Chewch chi ddim cefndir fel 'na yn Glastonbury!

Y dorf yn mwynhau Yr Eira... y band nid y stwff gwyn 'na!