Carcharu cyfarwyddwr am farwolaeth casglwr peli golff
- Cyhoeddwyd

Dale Pike (chwith) a'i dad Jonathan Pike (dde), gafodd ei ganfod yn ddieuog o'r un cyhuddiad
Mae cyfarwyddwr cwmni wedi ei garcharu am dros ddwy flynedd a hanner ar ôl i gasglwr peli golff foddi mewn llyn.
Fe wnaeth Dale Pike, 25, "sefyll a gwylio" tra bod Gareth Pugh yn plymio i'r dŵr yn gwisgo belt trwm er mwyn casglu'r peli ar gwrs golff Peterstone Lakes ger Casnewydd.
Fe wnaeth Mr Pugh, 29, gasglu dros 300 o beli cyn iddo golli ei offer anadlu, a boddi.
Dywedodd y barnwr fod Pike wedi caniatáu i Mr Pugh "gymryd risg er mwyn gwneud arian sydyn".

Bu farw Gareth Pugh yn Chwefror 2016
'Dan ddŵr am dros awr'
Clywodd y llys fod Mr Pugh wedi ei gyflogi i gasglu'r peli fyddai yna'n cael ei gwerthu ymlaen gan gwmni Boss Golf Balls oedd yn berchen i Pike.
Ond yn ôl yr erlynydd Phillip Evans QC, daeth hi'n amlwg i Pike fod "rhywbeth wedi mynd o'i le" wrth i Mr Pugh ddeifio yn y llyn i'w casglu.
"Erbyn i'r gwasanaethau brys dynnu Mr Pugh allan roedd wedi bod dan ddŵr am 70 munud," meddai.
"Cafodd Mr Pugh ei ganfod yn y dŵr gyda'i draed yn wynebu i fyny, ac roedd yn cael ei bwyso i lawr gan y belt trwm a'r bag o beli golff yr oedd yn ei gasglu."

Bu farw Mr Pugh ar ôl cael ei wahanu oddi wrth ei offer anadlu

Bag o beli golff gafodd eu casglu gan Mr Pugh
Clywodd y llys y dylai Pike fod wedi talu deifwyr proffesiynol i wneud y gwaith, ond ei fod yn hytrach wedi dewis Mr Pugh, oedd yn dioddef o ADHD ac anawsterau dysgu.
Byddai'r cwmni deifio wedi costio tua £1,000 y diwrnod, ond roedd Mr Pugh yn cael ei dalu rhwng £20 a £40 y dydd.
Yn amddiffyn, dywedodd David Elias QC ei fod yn "naïf" i feddwl y byddai "popeth yn iawn petai'n defnyddio'r offer hwnnw yn y llyn".
Fe wnaeth Pike, o Lyn-nedd, Abertawe, gyfaddef dynladdiad drwy esgeulustod difrifol a chael ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis.