'Etholiad yn effeithio ar brisiau tai' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r cynnydd mewn prisiau tai yng Nghymru wedi arafu, yn ôl ffigyrau diweddaraf gan gymdeithas adeiladu Principality.
Mae'r ffigyrau chwarterol yn dangos fod cynnydd o 0.8% wedi bod mewn prisiau - neu £1,375 - yn y flwyddyn ddiwethaf.
Dyma'r cynnydd lleiaf ers mis Awst 2013.
Dywedodd Principality fod hyn yn arwydd bod y farchnad yn arafu, ond maen nhw'n rhybuddio pobl i beidio â darllen gormod mewn i'r canlyniad.
Maen nhw'n credu y gallai'r etholiad cyffredinol fod yn ffactor, yn enwedig yn dilyn y canlyniad agos.
'Marchnad gystadleuol'
Mae cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru bellach yn £171,720.
Yn Sir Benfro gwelwyd y cynnydd blynyddol mwyaf - 10.1% - gyda'r pris cyfartalog bellach yn £191,951. Yn Sir y Fflint gwelwyd y cwymp mwyaf, 4.1%, gyda'r pris bellach yn £172,645.
Ym Mlaenau Gwent mae'r tai rhataf ar gyfartaledd, sef £96,197, ond mae'r prisiau wedi cynyddu yno dros y ddau chwarter a'r flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd prif swyddog cyllid Principality, Tom Denman: "Mae'r farchnad dai yn dueddol o weld agwedd ofalus pan oedd dyfodol yr economi yn ansicr.
"Fe allwn felly ddisgwyl gweld amrywiaeth pellach o ran gwerthiant a phrisiau tai. Mae cyfraddau morgeisi yn parhau yn isel ac mae'r farchnad yn gystadleuol i'r rhai sy'n penderfynu prynu tŷ."